Mae ABC yr Opera yn adrodd straeon gwefreiddiol i blant am gyfansoddwyr opera o'r 500 mlynedd diwethaf hyd at heddiw, trwy gwrdd a'r cyfansoddwyr eu hunain a chlywed eu straeon fel na chawsant eu hadrodd erioed o'r blaen. Darganfyddwch stori wefreiddiol opera gyda Jac, Megan a'r Cist sy'n teithio drwy amser.Mae taith ysgol yn mynd a Jac a Megan i'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain, lle maen nhw'n cwrdd unwaith eto a'u hen ffrind Cist. Wrth ei ryddhau o arddangosyn, cant eu chwipio yn ol i'r cyfnod Clasurol (tua 1730-1820) a dinasoedd Salzburg a Paris. Yma maen nhw'n dysgu popeth am y roes bwysig hon yn hanes cerdd gan y crewyr eu hunain.Wrth gario allan eu tasg o fynd a cherddoriaeth a straeon Wolfgang Wyntog (Mozart, yr athrylith dlawd), Tortellini Rossini (Brenin y Gegin) a Beethoven, oriog a gwydn, yn ol i'r presennol, yn fuan iawn mae Jac a Megan yn cael eu dal i fyny yn nychweliad Brenhines y Nos, creadigaeth fwyaf drwg Mozart. Pwy fydd yn ennill y dydd ac a all Jac a Megan gadw eu pennau oddi ar y bloc?Ysgrifennwyd gan Mark Llewelyn Evans. Darluniwyd gan Karl Davies.